Hanes Morwrol

Natur arfordirol oedd i fasnach gynnar Abermaw a cheir rhestr o gychod bach rhwng saith ac ugain tunnell yng Nghofnodion Porthladdoedd Cymru. Ceir cofnodion swyddogol o’r cychod hyn a oedd yn masnachu â’r dref mor gynnar â 1566, a’r cyfeiriad cynharaf o fasnach o’r fath oedd yr un sy’n dweud bod cwch o Abermaw wedi dadlwytho oddi ar le Angell de Bermo yn 1587 i Robert Edwards, Llanaber a oedd newydd adeiladu tŷ newydd iddo’i hun yn Llwyndu. Roedd y llwyth grawn hwn – rhyg, ‘pilgorn’, haidd a gwenith – yn un digon cyffredin. Y nwyddau ymborth hyn oedd y brif fasnach ond byddai allforion yn cynnwys coed a rhisgl derw, gwlân yn achlysurol ac, wrth gwrs, penwaig hefyd. Fodd bynnag, yn 1615 dadlwythwyd cargo a oedd yn cynnwys ‘twentie tonnes of Ffrenche wines’ oddi ar long a chodwyd toll arni - sy’n brawf fod gan rhywun yn y fro gryn chwaeth hyn yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw!

Cynyddodd y fasnach, gyda’r rhan fwyaf o’r allforion o ddyffryn Mawddach: pren (derw yn bennaf, a rhisgl a ddefnyddid ar gyfer polion a choed pwll), cerrig palmant, llechi a brethyn yn enwedig o felinau gwlân Dolgellau. Arferai’r cynhyrchwyr brethyn yrru eu cynnyrch ar draws gwlad i’r Amwythig gan mai yn nwylo’r masnachwyr yno yr oedd y fonopoli ond yna dechreuwyd allforio o Abermaw i rannau eraill o’r byd, gan gynnwys planhigfeydd America, yn arbennig felly y miloedd o gynnyrch gwlân bras a elwid ‘gwe’. Ceir un cofnod blwyddyn o werth £40,000 o gynnyrch gwlân yn cael ei allforio dramor. Er mwyn cefnogi’r fasnach hon daeth Abermaw a moryd y Fawddach yn enwog am adeiladu llongau. Gwelwyd oes aur y gwaith rhwng y 1760au a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda tua 350 o longau’n cael eu hadeiladu yno. Fodd bynnag, gostyngodd y gweithgarwch hwn i rai mannau ar draws y byd yn sgil y rhyfel yn erbyn America (1776-1782) a’r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon (1788-1815).

Efallai bod y diwydiant adeiladu llongau yn ardal Abermaw ac ar draws y bae ym Mhwllheli wedi bod yn allweddol yn y fasnach lechi o Gymru i Lundain a ddatblygodd ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Serch hynny, wrth i gei llechi Porthmadog flodeuo fe ddaeth hefyd yn brif borthladd adeiladu llongau ac fe ddirywiodd y diwydiant yn Abermaw o ganlyniad i hynny. Ond roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant enfawr ac fe barhaodd hyd at 1865 hyd nes i ddyfodiad y rheilffordd yn 1867 ddod â’r gwaith i’w derfyn.

 

Erbyn heddiw mae gweithgarwch masnachol Abermaw wedi dod i ben yn gyfan gwbl. Ceir dyrnaid o gychod bach sy’n mynd ag ymwelwyr ar deithiau pysgota, ond does dim ar ôl i dystiolaethu i’r traddodiad mordwyol ffyniannus a fu yma gynt.

Abermaw yn y Dyddiau Cynnar

Ychydig a wyddwn am hannes cynnar Abermaw. Ar ben y bryn uwchlaw’r dref mae safle cyn-Rufeinig Dinas Oleu a gyflwynwyd yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 pan oedd honno newydd gael ei sefydlu. Yn gyffredinol, ffermydd gwasgaredig oedd anheddau cynnar Cymru – fe gyfeiriodd Gerallt Gymro at hyn yn ystod ei daith drwy’r wlad yn y ddeuddegfed ganrif – ac nid eithriad mo’r ardal hon. Roedd trefi a phentrefi bychain ledled Meirionnydd wrth gwrs, ond roedd nifer helaeth o ffermydd hefyd. Yn fuan ar ôl i Edward y Cyntaf drechu’r Cymry yn 1282, caed treth neu gymhorthdal ac fe welir rhestr o 1292 o drethdalwyr ym mhlwyf Llanaber, sydd bellach yn cynnwys Abermaw. Mae llawer o dai fferm yr ardal yn dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif a’r rheiny wedi eu codi ar safle tai cynharach fyth.

Mae Cyfrifiad Esgob 1563 yn rhoi awgrym inni o faint y boblogaeth ar y pryd: rhestrir 60 cartref yn y ‘ville of Llanaber’ ac mae arolwg o borthladdoedd a chilfachau arfordir Cymru a gynhaliwyd yn oes Elisabeth y Gyntaf (archwiliad i atynfa’r arfordir i fôr-ladron a goresgynwyr) yn rhestru ‘Abermowe … being likewise a haven having no habitation, but only foure howses whereof there are owners Res ap Res; Haryy ap Eden; Thomas ap Edward and John ap Howard Goche…’.

Tyfodd y dref yn raddol bach, gyda chofnod o’r rhent a dalwyd i’r Goron yn 1638 yn cyfeirio at ddeg tŷ yn Abermaw ymysg 90 tŷ yn nhref Llanaber.

 

Y cyfeiriad cynharaf sydd gennym at dŷ yn Abermaw ei hun yw’r gerdd fawl i’r sawl a gododd ‘Tŷ Gwyn yn y Bermo’ sy’n dyddio o tua 1465. Gobeithir medru dyddio’r adeilad hwn yn fuan drwy ddefnyddio’r dull dyddio cylchoedd coed ond tan hynny bydd raid inni fwynhau’r stori fod Tŷ Gwyn yn cael ei ddefnyddio fel man i gynnal cyfarfodydd gyda Jasper Tudor, cefnogwr y Lancastriaid, pan oedd yn cynllwynio i ddisodli’r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Mae’n debygol iddo fod yn ystordy ac yna’n dolldy.

Datgelodd archwiliad o ddau gwch sy’n gorwedd ar ben ei gilydd nid nepell o’r lan ger Talybont fod un ohonynt yn dyddio o’r bymthegfed ganrif, a bod canon ar ei bwrdd. Dyma’r enghraifft gynharaf o fad a ddarganfuwyd yn y dyfroedd hyn. Efallai ei bod yn cael ei defnyddio mewn rhyfel ar y pryd. Credir bod y cwch uchaf o’r ddau wedi suddo yn 1709, sy’n weddol ddiweddar o’i gymharu â’i gymar! Mae’n werth mynd i ddarllen yr hanes a gweld y creiriau a godwyd o’r llongddrylliadau hyn yn Amgueddfa Tŷ Gwyn ar y cei.

Tra oedd y dref yn araf dyfu roedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn byw ar ffermydd nid nepell o Abermaw yn yr hyn a elwid yn Drefgordd Llanaber. Yn ddieithriad mae’r tai hyn yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen ond heb amheuaeth roedd adeiladau o rhyw fath yn bodoli yno cyn hynny. Hefyd, gwyddom fod tai wedi cael eu hadeiladu ar y bryn serth uwchben yr harbwr yn y fan a elwir heddiw yn Hen Bermo. Mae’r adeiladau hynaf yn yr ‘hen dref’ yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg ond efallai bod olion o gyfnodau cynharach yn bodoli hefyd. Yma’r oedd y dref gyfan bron hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, er mwyn bod ymhell o afael y môr a’i donnau.

Mae fferi wedi bod ar brydles gan y Goron ers o leiaf yr oesoedd canol diweddar, gan gludo teithwyr i lan ddeheuol y foryd hyd y dydd heddiw.

Dyngarwch Oes Victoria

Yn Oes Victoria roedd sawl gwedd i ddyngarwch yn Lloegr, er enghraifft, gweini ar y ‘tlodion teilwng’ - a hynny mewn cyfnod pan fyddai pobl yn cael eu hanfon i wyrcws yn ogystal â’u hanfon at sefydliadau megis y Gymdeithas Gydweithredol (Co-op) a sefydlwyd yn wreiddiol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau am brisiau rhesymol. Mudiad arall sy’n deillio o’r cyfnod hwnnw ac sy’n dilyn yr un athroniaeth yw Byddin yr Iachawdwriaeth, ac wrth gwrs, yr oedd neges grefyddol yn bresennol yn aml. Yn gyffredinol, pobl gyfforddus eu byd oedd cefnogwyr y mudiadau hyn ac fe symudodd nifer ohonynt i Abermaw gan adeiladu tai mawr iddynt eu hunain. Roedd rhai yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r dydd hefyd. Mae Cyfrifiad 1851 yn dangos mai Cymry oedd y boblogaeth gyfan bron ond erbyn 1901 roedd nifer o deuluoedd Saesneg eu hiaith yn Abermaw a’r cyffiniau. Roedd Fanny Talbot yn wraig bwysig, yn byw uwchlaw’r dref ac yn rhestru aelodau blaenllaw o’r bonedd cyfoethog, deallus ymysg ei chyfeillion. Gŵr a elwodd yn gynnar iawn o natur hael, yn ogystal â phwrs hael Fanny Talbot, oedd yr hollddysgedig John Ruskin, y sylwebydd cymdeithasol a’r beirniad celf a fu mor allweddol yn natblygiad y meddwl dyngarol. Taniodd syniadau Ruskin ddiddordeb Talbot, yn enwedig y syniadau a oedd hefyd yn rhan o Gild San Siôr. Sefydlwyd y Gild i ddarparu tir ac addysg er mwyn cartrefu gweithwyr Cymru a Lloegr a’u hyfforddi megis crefftwyr yr oesoedd canol, gan hyrwyddo syniadau blaengar ar yr un pryd. Am £1,000 trosglwyddodd Mrs Talbot nifer o fythynnod yr Hen Bermo i’r Gild er mwyn iddynt fedru dechrau ar yr arbrawf cymdeithasol hwn – cymdeithas dai fyddai’r enw cyfoes ar hyn – er mwyn cynnig tenantiaeth sefydlog am bris gosodedig. Cynnig llety o’r fath oedd y syniad, ac fe fyddai darparu addysg yn tawelu’r syniadau radicalaidd a allai gael eu tanio ym meddyliau’r gweithwyr, tra ar yr un pryd byddent yn dysgu sgiliau a oedd yn cael eu colli o ganlyniad i effeithiau diwydiannol cyfalafiaeth. Fodd bynnag, fe ymddengys mai Fanny Talbot oedd yn gorfod gofalu am yr arbrawf gan mai anaml iawn yr ymwelai Ruskin ag Abermaw.

 

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, Mrs Talbot oedd y gyntaf i gyflwyno darn o dir yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a oedd ar fin cael ei sefydlu, sef Dinas Oleu, a byddai’n cyfarfod hynafgwyr y mudiad megis Octavia Hill a’r Canon Rawnsley yn rheolaidd.

Roedd sefydlu Sefydliad y Morwyr, ystafell ddarllen a hamddena ar gyfer morwyr ac eraill yn 1890 dan ofal y Canon Edward Hughes yn arwydd arall o’r asbri cyhoeddus.

Sefydlodd rhagor o wŷr mawr y diwydiant Fictoraidd ac Edwardaidd yn Abermaw. Daeth Mrs Sarah Perrins (gwraig y Perrins a greodd y Lea and Perrrins Worcester Sauce enwog) i Abermaw gan adeiladu tŷ helaeth o’r enw Plas Mynach. Yn ddiweddarach hi roddodd y rhan fwyaf o’r arian ar gyfer adeiladu Eglwys Sant Ioan ysblennydd ac yna Neuadd yr Eglwys. Ar draws y foryd, y teulu o gynhyrchwyr blawd McDougal a adeiladodd y rhan fwyaf o adeiladau cynnar y Friog, a elwid cyn hynny yn Dde Bermo, er i’r lle gael ei adeiladu’n bennaf ar gyfer dyfodiad diwydianwyr cefnog!

Abermaw yn Oes Victoria

Mae’r holl ailadeiladu sydd wedi digwydd yn Abermaw ar hyd y blynyddoedd yn brawf o hanes diddorol y dref. Yn y ddeunawfed ganrif daeth adeiladau Sioraidd hardd i gymryd lle rhai o strwythurau brodorol cynnar y dref, er bod bythynnod o gyfnod cynharach yn yr Hen Bermo o hyd, yn ogystal â Phen-y-grisiau ar y Stryd Fawr a Tŷ Gwyn ar y cei. Mae rhai o’r adeiladau Sioraidd ysblennydd yn cael eu cynnwys yn y Daith Dreftadaeth.

Fodd bynnag, roedd dyfodiad y rheilffordd yn 1867 yn ddechrau cyfnod arwyddocaol arall o adeiladu yn Abermaw. Mae nifer o adeiladau y rhan o Abermaw a elwir heddiw yn ‘ganol y dref’ yn dyddio o’r cyfnod hwn. O astudio lluniau hŷn o Abermaw gellir gweld sut y gwnaeth yr adeiladau cynnar le i’r rhai mwy. Canolbwynt y gweithgareddau adeiladu oedd darparu ar gyfer yr economi newydd gyda thai lojin, gwestai ac adeiladau cyhoeddus mawr megis yr Ystafelloedd Ymgynnull (wedi ei ddymchwel) rhwng y siopau niferus. Adeiladwyd ysgol, llyfrgell a’r Cambrian Establishment yn ystod y blynyddoedd hyn. Ond yn ogystal â’r buddiannau, daeth y llif ymwelwyr â phroblemau i’w ganlyn hefyd ac felly fe adeiladwyd carchar Tŷ Crwn yn y cyfnod hwn er mwyn delio â’r meddwon. Mae’n debyg nad oedd Abermaw fawr gwaeth na mannau eraill y cyfnod hwn oherwydd yn sgil Deddf y Tlodion 1832 roedd carchardai o’r fath yn cael eu codi ledled Prydain.

Heb amheuaeth, arferai Abermaw fod yn lle crefyddol. Adeiladwyd y ddwy eglwys Anglicanaidd – Eglwys Dewi Sant ac Eglwys San Siôr – i fod yn addas ar gyfer y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a oedd yn ymweld â’r dref. Codwyd Eglwys Dewi Sant yn 1830, cyn Oes Victoria, er mwyn cael presenoldeb Anglicanaidd yn y dref gan fod yr eglwys agosaf – Eglwys y Santes Fair sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg – rhyw ddwy filltir i ffwrdd o’r dref. Roedd Anghydffurfiaeth yn boblogaidd hefyd ac fe adeiladwyd capeli mawr megis Caersalem ac Eglwys y Drindod, Ebenezer, Siloam a Chapel yr Annibynwyr (Theatr y Ddraig heddiw). Roedd y rhain yn rhoi gwedd anghydffurfiol amlwg i grefydd yn Abermaw ac roedd nifer helaeth iawn o’r trigolion lleol yn mynychu’r capeli hyn. Mae’r adeiladau hyn i gyd, ar wahân i Gapel yr Annibynwyr sy’n dal i ddenu cynulleidfa, bellach yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill yn hytrach nag addoli.

 

Wrth i’r cyfnod hwn barhau i weld dirywiad y fasnach forwrol, daeth y diwydiant twristiaeth a hamdden â’r dref i gryn enwogrwydd ac ers hynny mae Abermaw wedi addasu ei hun i ddarparu ar gyfer gwahanol ofynion ei hymwelwyr.

Teithio a Thwristiaeth yn Abermaw

Wrth ymweld ag Abermaw fe fyddwch yn ymunod â llu o deithwyr sydd wedi ymweld â’r ardal dros y canrifoedd. Yn ddaearyddol roedd Abermaw, fel y rhan helaethaf o ogledd-orllewin Cymru, ar wahân i weddill y wlad. Roedd ffyrdd yn brin a’r ychydig a fodolai yn croesi tiroedd gwyllt, anodd i’w troedio ac felly roedd teithio yma yn gryn antur. Cyfeirir at afon Maw (afon Mawddach erbyn hyn), sy’n ymuno â’r môr yn Abermaw, yng ngwaith Gerallt Gymro o’r ddeuddegfed ganrif. Roedd Gerallt yn glerigwr a deithiodd Cymru i annog ei ddilynwyr i ymuno â’r Croesgadau yn y Tir Sanctaidd. Defnyddiodd y fferi i groesi’r afon. Hyd y gwyddom nid oedd llawer o anheddau yn yr ardal bryd hynny. Ganrifoedd yn ddiweddarach, oddeutu 1545, teithiodd John Leyland drwy ‘Abermowe’ fel y câi ei adnabod bryd hynny, gan gyflwyno’i ddisgrifiadau o’r daith o gwmpas Cymru a Lloegr i Harri’r Wythfed.

Yn y ddeunawfed ganrif, cyfareddwyd rhai pobl gan dirluniau trawiadol a syniadau rhamantaidd cyfnod yr ‘ymoleuo’. Er nad oedd hi’n hawdd teithio yng Nghymru, denwyd teithwyr cefnog yr oes i grwydro’r wlad, gydag aber afon Mawddach yn atyniad mawr iddynt. Ar ddiwedd y ganrif daeth y ‘Daith Fawr’ yn amhoblogaidd oherwydd y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon ac felly fe ddenwyd pobl i grwydro ardaloedd hardd Prydain, gan gynnwys gogledd Cymru. Daeth amrywiaeth eang o bobl i ardal Abermaw - gyda rhai ohonynt yn dod yn enwog yn ddiweddarach, megis Charles Darwin a fu yma sawl tro, Percy Bysshe Shelley, William Wordsworth a George Byron a llawer iawn mwy. Daethant yma, yn rhannol, o ganlyniad i weithiau pwysig Thomas Pennant (1726-1798), y naturiaethwr a hynafiaethydd byd-enwog sydd â’i holl ddisgrifiadau o bob rhan o Gymru yn annog y teithiwr i grwydro yno. Disgrifiodd Abermaw fel hyn:

‘Gwelais fod tref fechan Abermaw, sydd wedi ei lleoli ar droed mynyddoedd uchel, gyda’r tai wedi eu gosod ar y llethrau serth, un ar ben y llall, yn rhoi cyfle i bwy bynnag sydd ar y pen uchaf weld i lawr simneiau eu cymdogion islaw. Lleolir y dref yn agos iawn at y môr, ar aber afon “Maw” neu “Mawddach” ac mae’r enw Saesneg “Barmouth” yn tarddu o’r enw Cymraeg hwnnw.’

Copïwyd ei ddisgrifiadau’n aml; fodd bynnag, daeth llawer iawn mwy o deithwyr da eu byd, fel Pennant, am dro i’r ardal gan ysgrifennu am eu profiadau ac er mai testun y rhan fwyaf o’r adroddiadau hyn yw’r golygfeydd trawiadol, nid yw pawb yn canmol y fro. Ceir disgrifiadau o dai tlodaidd, lluwchfeydd tywod a moch yn cyd-fyw â phobl mewn rhai rhannau o’r Hen Bermo, ond ar y cyfan mae’r farn yn gadarnhaol. Ni allwn heddiw lai na dychmygu pa fath o awyrgylch oedd ar y cei llawn cychod, morwyr a dynion a merched geirwon eraill pan gyrhaeddai’r ‘twristiaid newydd’ hyn i’r dref. Rhaid cofio hefyd nad oedd y ffordd o Abermaw ar hyd y foryd a ffrwydrwyd drwy’r graig wedi cael ei hadeiladu tan y 1790au ac felly byddai ymwelwyr yn gorfod dod i lawr y llethrau serth i’r dref. Haws o lawer oedd cyrraedd y dref mewn cwch, oni bai bod rhywun yn teithio o’r gogledd!

 

Yn ogystal â’r golygfeydd, atyniad arall yn Abermaw oedd y cyfle i ymwelwyr gael ymdrochi yn y môr ac fe fanteisiodd rhai entrepreneuriaid lleol ar hyn, megis William Barnett, tafarnwr Cors y Gedol Arms Hotel a agorodd faddondy yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellid ymdrochi o fewn ei furiau ond hefyd fe osodwyd peiriannau ymdrochi ar y traeth.

 

Y prif gatalydd yn ffawd Abermaw fu rheilffordd yr arfordir, neu’r ‘Aberystwith [sic] and Welsh Coast Railway’ a agorwyd yn 1867. O fewn deg mlynedd roedd y rheilffordd yn gyfrifol am ddirywiad sylweddol y diwydiant adeiladu llongau ond yr oedd hefyd wedi sicrhau cyfeiriad newydd i’r dref ar ffurf masnach newydd y diwydiant ymwelwyr, gyda 1200 yn cyrraedd ar y trên cyntaf! Ysgogwyd y dref gan y cyfnod Sioraidd boneddigaidd i adfywio’i hun i ddiwyg Fictoraidd newydd ac mae llawer o’r adeiladau a welir heddiw yn Abermaw yn deillio o’r ailadeiladu hwnnw a wnaed wrth geisio diwallu anghenion y fasnach newydd.

 

Dim ond y bobl gyfoethog oedd yn mynd ar eu gwyliau yn Oes Victoria; nid oedd y dosbarth gweithiol yn cael y fraint o dderbyn tâl gwyliau, dim ond ambell ŵyl banc o 1871 ymlaen. Fodd bynnag, daeth gwyliau ar lan y môr yn fwyfwy poblogaidd a daeth miloedd o ymwelwyr i Abermaw ar y trên i aros yn y gwestai a’r ‘tai lojin’, gydag ambell un yn aros gydol yr haf. Cynyddoedd nifer yr ymwelwyr yn yr ugeinfed ganrif pan ddechreuwyd y traddodiad o gau ffatrïoedd Lloegr am wyliau haf a byddai cynigion gwyliau haf arbennig yn denu miloedd o weithwyr a’u teuluoedd i dreulio’u gwyliau ar yr arfordir – i Weston-Super-Mare a Torbay yn ne Lloegr, ac Aberystwyth, Tywyn ac Abermaw yng ngorllewin Cymru. Erbyn y 1930au a’r 1940au wynebai’r trên gystadleuaeth ar ffurf car modur a bws. Y trên hwnnw oedd wedi trawsnewid ffawd Abermaw ac roedd y cyfuniad o draethau braf, llwybrau mynyddig a hinsawdd gyfeillgar yn gymorth i sefydlu enw da a sicrhaodd fod ymwelwyr yn parhau’n ffyddlon i Abermaw ar hyd eu hoes. Ac mae’r traddodiad hwnnw’n parhau hyd heddiw i ryw raddau.

 

Er bod y trên yn dal i gario ymwelwyr i Abermaw, bydd y mwyafrif yn teithio ar hyd y ffyrdd, gyda’r priffyrdd ‘A’ o ganolbarth Lloegr yn hwyluso’r daith tuag at yr arfordir - ac mae’r teithwyr yn parhau’n ffyddlon i Abermaw. Gwrandewch ar yr acenion wrth gerdded ar hyd y prom ganol haf – fe sylweddolwch yn syth mai’r acenion Seisnig sy’n atseinio amlaf.