Hanes Morwrol

Natur arfordirol oedd i fasnach gynnar Abermaw a cheir rhestr o gychod bach rhwng saith ac ugain tunnell yng Nghofnodion Porthladdoedd Cymru. Ceir cofnodion swyddogol o’r cychod hyn a oedd yn masnachu â’r dref mor gynnar â 1566, a’r cyfeiriad cynharaf o fasnach o’r fath oedd yr un sy’n dweud bod cwch o Abermaw wedi dadlwytho oddi ar le Angell de Bermo yn 1587 i Robert Edwards, Llanaber a oedd newydd adeiladu tŷ newydd iddo’i hun yn Llwyndu. Roedd y llwyth grawn hwn – rhyg, ‘pilgorn’, haidd a gwenith – yn un digon cyffredin. Y nwyddau ymborth hyn oedd y brif fasnach ond byddai allforion yn cynnwys coed a rhisgl derw, gwlân yn achlysurol ac, wrth gwrs, penwaig hefyd. Fodd bynnag, yn 1615 dadlwythwyd cargo a oedd yn cynnwys ‘twentie tonnes of Ffrenche wines’ oddi ar long a chodwyd toll arni - sy’n brawf fod gan rhywun yn y fro gryn chwaeth hyn yn oed yn y cyfnod cynnar hwnnw!

Cynyddodd y fasnach, gyda’r rhan fwyaf o’r allforion o ddyffryn Mawddach: pren (derw yn bennaf, a rhisgl a ddefnyddid ar gyfer polion a choed pwll), cerrig palmant, llechi a brethyn yn enwedig o felinau gwlân Dolgellau. Arferai’r cynhyrchwyr brethyn yrru eu cynnyrch ar draws gwlad i’r Amwythig gan mai yn nwylo’r masnachwyr yno yr oedd y fonopoli ond yna dechreuwyd allforio o Abermaw i rannau eraill o’r byd, gan gynnwys planhigfeydd America, yn arbennig felly y miloedd o gynnyrch gwlân bras a elwid ‘gwe’. Ceir un cofnod blwyddyn o werth £40,000 o gynnyrch gwlân yn cael ei allforio dramor. Er mwyn cefnogi’r fasnach hon daeth Abermaw a moryd y Fawddach yn enwog am adeiladu llongau. Gwelwyd oes aur y gwaith rhwng y 1760au a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda tua 350 o longau’n cael eu hadeiladu yno. Fodd bynnag, gostyngodd y gweithgarwch hwn i rai mannau ar draws y byd yn sgil y rhyfel yn erbyn America (1776-1782) a’r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon (1788-1815).

Efallai bod y diwydiant adeiladu llongau yn ardal Abermaw ac ar draws y bae ym Mhwllheli wedi bod yn allweddol yn y fasnach lechi o Gymru i Lundain a ddatblygodd ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Serch hynny, wrth i gei llechi Porthmadog flodeuo fe ddaeth hefyd yn brif borthladd adeiladu llongau ac fe ddirywiodd y diwydiant yn Abermaw o ganlyniad i hynny. Ond roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant enfawr ac fe barhaodd hyd at 1865 hyd nes i ddyfodiad y rheilffordd yn 1867 ddod â’r gwaith i’w derfyn.

 

Erbyn heddiw mae gweithgarwch masnachol Abermaw wedi dod i ben yn gyfan gwbl. Ceir dyrnaid o gychod bach sy’n mynd ag ymwelwyr ar deithiau pysgota, ond does dim ar ôl i dystiolaethu i’r traddodiad mordwyol ffyniannus a fu yma gynt.