Teithio a Thwristiaeth yn Abermaw

Wrth ymweld ag Abermaw fe fyddwch yn ymunod â llu o deithwyr sydd wedi ymweld â’r ardal dros y canrifoedd. Yn ddaearyddol roedd Abermaw, fel y rhan helaethaf o ogledd-orllewin Cymru, ar wahân i weddill y wlad. Roedd ffyrdd yn brin a’r ychydig a fodolai yn croesi tiroedd gwyllt, anodd i’w troedio ac felly roedd teithio yma yn gryn antur. Cyfeirir at afon Maw (afon Mawddach erbyn hyn), sy’n ymuno â’r môr yn Abermaw, yng ngwaith Gerallt Gymro o’r ddeuddegfed ganrif. Roedd Gerallt yn glerigwr a deithiodd Cymru i annog ei ddilynwyr i ymuno â’r Croesgadau yn y Tir Sanctaidd. Defnyddiodd y fferi i groesi’r afon. Hyd y gwyddom nid oedd llawer o anheddau yn yr ardal bryd hynny. Ganrifoedd yn ddiweddarach, oddeutu 1545, teithiodd John Leyland drwy ‘Abermowe’ fel y câi ei adnabod bryd hynny, gan gyflwyno’i ddisgrifiadau o’r daith o gwmpas Cymru a Lloegr i Harri’r Wythfed.

Yn y ddeunawfed ganrif, cyfareddwyd rhai pobl gan dirluniau trawiadol a syniadau rhamantaidd cyfnod yr ‘ymoleuo’. Er nad oedd hi’n hawdd teithio yng Nghymru, denwyd teithwyr cefnog yr oes i grwydro’r wlad, gydag aber afon Mawddach yn atyniad mawr iddynt. Ar ddiwedd y ganrif daeth y ‘Daith Fawr’ yn amhoblogaidd oherwydd y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfeloedd yn erbyn Napoleon ac felly fe ddenwyd pobl i grwydro ardaloedd hardd Prydain, gan gynnwys gogledd Cymru. Daeth amrywiaeth eang o bobl i ardal Abermaw - gyda rhai ohonynt yn dod yn enwog yn ddiweddarach, megis Charles Darwin a fu yma sawl tro, Percy Bysshe Shelley, William Wordsworth a George Byron a llawer iawn mwy. Daethant yma, yn rhannol, o ganlyniad i weithiau pwysig Thomas Pennant (1726-1798), y naturiaethwr a hynafiaethydd byd-enwog sydd â’i holl ddisgrifiadau o bob rhan o Gymru yn annog y teithiwr i grwydro yno. Disgrifiodd Abermaw fel hyn:

‘Gwelais fod tref fechan Abermaw, sydd wedi ei lleoli ar droed mynyddoedd uchel, gyda’r tai wedi eu gosod ar y llethrau serth, un ar ben y llall, yn rhoi cyfle i bwy bynnag sydd ar y pen uchaf weld i lawr simneiau eu cymdogion islaw. Lleolir y dref yn agos iawn at y môr, ar aber afon “Maw” neu “Mawddach” ac mae’r enw Saesneg “Barmouth” yn tarddu o’r enw Cymraeg hwnnw.’

Copïwyd ei ddisgrifiadau’n aml; fodd bynnag, daeth llawer iawn mwy o deithwyr da eu byd, fel Pennant, am dro i’r ardal gan ysgrifennu am eu profiadau ac er mai testun y rhan fwyaf o’r adroddiadau hyn yw’r golygfeydd trawiadol, nid yw pawb yn canmol y fro. Ceir disgrifiadau o dai tlodaidd, lluwchfeydd tywod a moch yn cyd-fyw â phobl mewn rhai rhannau o’r Hen Bermo, ond ar y cyfan mae’r farn yn gadarnhaol. Ni allwn heddiw lai na dychmygu pa fath o awyrgylch oedd ar y cei llawn cychod, morwyr a dynion a merched geirwon eraill pan gyrhaeddai’r ‘twristiaid newydd’ hyn i’r dref. Rhaid cofio hefyd nad oedd y ffordd o Abermaw ar hyd y foryd a ffrwydrwyd drwy’r graig wedi cael ei hadeiladu tan y 1790au ac felly byddai ymwelwyr yn gorfod dod i lawr y llethrau serth i’r dref. Haws o lawer oedd cyrraedd y dref mewn cwch, oni bai bod rhywun yn teithio o’r gogledd!

 

Yn ogystal â’r golygfeydd, atyniad arall yn Abermaw oedd y cyfle i ymwelwyr gael ymdrochi yn y môr ac fe fanteisiodd rhai entrepreneuriaid lleol ar hyn, megis William Barnett, tafarnwr Cors y Gedol Arms Hotel a agorodd faddondy yn nechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gellid ymdrochi o fewn ei furiau ond hefyd fe osodwyd peiriannau ymdrochi ar y traeth.

 

Y prif gatalydd yn ffawd Abermaw fu rheilffordd yr arfordir, neu’r ‘Aberystwith [sic] and Welsh Coast Railway’ a agorwyd yn 1867. O fewn deg mlynedd roedd y rheilffordd yn gyfrifol am ddirywiad sylweddol y diwydiant adeiladu llongau ond yr oedd hefyd wedi sicrhau cyfeiriad newydd i’r dref ar ffurf masnach newydd y diwydiant ymwelwyr, gyda 1200 yn cyrraedd ar y trên cyntaf! Ysgogwyd y dref gan y cyfnod Sioraidd boneddigaidd i adfywio’i hun i ddiwyg Fictoraidd newydd ac mae llawer o’r adeiladau a welir heddiw yn Abermaw yn deillio o’r ailadeiladu hwnnw a wnaed wrth geisio diwallu anghenion y fasnach newydd.

 

Dim ond y bobl gyfoethog oedd yn mynd ar eu gwyliau yn Oes Victoria; nid oedd y dosbarth gweithiol yn cael y fraint o dderbyn tâl gwyliau, dim ond ambell ŵyl banc o 1871 ymlaen. Fodd bynnag, daeth gwyliau ar lan y môr yn fwyfwy poblogaidd a daeth miloedd o ymwelwyr i Abermaw ar y trên i aros yn y gwestai a’r ‘tai lojin’, gydag ambell un yn aros gydol yr haf. Cynyddoedd nifer yr ymwelwyr yn yr ugeinfed ganrif pan ddechreuwyd y traddodiad o gau ffatrïoedd Lloegr am wyliau haf a byddai cynigion gwyliau haf arbennig yn denu miloedd o weithwyr a’u teuluoedd i dreulio’u gwyliau ar yr arfordir – i Weston-Super-Mare a Torbay yn ne Lloegr, ac Aberystwyth, Tywyn ac Abermaw yng ngorllewin Cymru. Erbyn y 1930au a’r 1940au wynebai’r trên gystadleuaeth ar ffurf car modur a bws. Y trên hwnnw oedd wedi trawsnewid ffawd Abermaw ac roedd y cyfuniad o draethau braf, llwybrau mynyddig a hinsawdd gyfeillgar yn gymorth i sefydlu enw da a sicrhaodd fod ymwelwyr yn parhau’n ffyddlon i Abermaw ar hyd eu hoes. Ac mae’r traddodiad hwnnw’n parhau hyd heddiw i ryw raddau.

 

Er bod y trên yn dal i gario ymwelwyr i Abermaw, bydd y mwyafrif yn teithio ar hyd y ffyrdd, gyda’r priffyrdd ‘A’ o ganolbarth Lloegr yn hwyluso’r daith tuag at yr arfordir - ac mae’r teithwyr yn parhau’n ffyddlon i Abermaw. Gwrandewch ar yr acenion wrth gerdded ar hyd y prom ganol haf – fe sylweddolwch yn syth mai’r acenion Seisnig sy’n atseinio amlaf.