Abermaw yn y Dyddiau Cynnar

Ychydig a wyddwn am hannes cynnar Abermaw. Ar ben y bryn uwchlaw’r dref mae safle cyn-Rufeinig Dinas Oleu a gyflwynwyd yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895 pan oedd honno newydd gael ei sefydlu. Yn gyffredinol, ffermydd gwasgaredig oedd anheddau cynnar Cymru – fe gyfeiriodd Gerallt Gymro at hyn yn ystod ei daith drwy’r wlad yn y ddeuddegfed ganrif – ac nid eithriad mo’r ardal hon. Roedd trefi a phentrefi bychain ledled Meirionnydd wrth gwrs, ond roedd nifer helaeth o ffermydd hefyd. Yn fuan ar ôl i Edward y Cyntaf drechu’r Cymry yn 1282, caed treth neu gymhorthdal ac fe welir rhestr o 1292 o drethdalwyr ym mhlwyf Llanaber, sydd bellach yn cynnwys Abermaw. Mae llawer o dai fferm yr ardal yn dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif a’r rheiny wedi eu codi ar safle tai cynharach fyth.

Mae Cyfrifiad Esgob 1563 yn rhoi awgrym inni o faint y boblogaeth ar y pryd: rhestrir 60 cartref yn y ‘ville of Llanaber’ ac mae arolwg o borthladdoedd a chilfachau arfordir Cymru a gynhaliwyd yn oes Elisabeth y Gyntaf (archwiliad i atynfa’r arfordir i fôr-ladron a goresgynwyr) yn rhestru ‘Abermowe … being likewise a haven having no habitation, but only foure howses whereof there are owners Res ap Res; Haryy ap Eden; Thomas ap Edward and John ap Howard Goche…’.

Tyfodd y dref yn raddol bach, gyda chofnod o’r rhent a dalwyd i’r Goron yn 1638 yn cyfeirio at ddeg tŷ yn Abermaw ymysg 90 tŷ yn nhref Llanaber.

 

Y cyfeiriad cynharaf sydd gennym at dŷ yn Abermaw ei hun yw’r gerdd fawl i’r sawl a gododd ‘Tŷ Gwyn yn y Bermo’ sy’n dyddio o tua 1465. Gobeithir medru dyddio’r adeilad hwn yn fuan drwy ddefnyddio’r dull dyddio cylchoedd coed ond tan hynny bydd raid inni fwynhau’r stori fod Tŷ Gwyn yn cael ei ddefnyddio fel man i gynnal cyfarfodydd gyda Jasper Tudor, cefnogwr y Lancastriaid, pan oedd yn cynllwynio i ddisodli’r Iorciaid yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Mae’n debygol iddo fod yn ystordy ac yna’n dolldy.

Datgelodd archwiliad o ddau gwch sy’n gorwedd ar ben ei gilydd nid nepell o’r lan ger Talybont fod un ohonynt yn dyddio o’r bymthegfed ganrif, a bod canon ar ei bwrdd. Dyma’r enghraifft gynharaf o fad a ddarganfuwyd yn y dyfroedd hyn. Efallai ei bod yn cael ei defnyddio mewn rhyfel ar y pryd. Credir bod y cwch uchaf o’r ddau wedi suddo yn 1709, sy’n weddol ddiweddar o’i gymharu â’i gymar! Mae’n werth mynd i ddarllen yr hanes a gweld y creiriau a godwyd o’r llongddrylliadau hyn yn Amgueddfa Tŷ Gwyn ar y cei.

Tra oedd y dref yn araf dyfu roedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth yn byw ar ffermydd nid nepell o Abermaw yn yr hyn a elwid yn Drefgordd Llanaber. Yn ddieithriad mae’r tai hyn yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen ond heb amheuaeth roedd adeiladau o rhyw fath yn bodoli yno cyn hynny. Hefyd, gwyddom fod tai wedi cael eu hadeiladu ar y bryn serth uwchben yr harbwr yn y fan a elwir heddiw yn Hen Bermo. Mae’r adeiladau hynaf yn yr ‘hen dref’ yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg ond efallai bod olion o gyfnodau cynharach yn bodoli hefyd. Yma’r oedd y dref gyfan bron hyd at ganol y ddeunawfed ganrif, er mwyn bod ymhell o afael y môr a’i donnau.

Mae fferi wedi bod ar brydles gan y Goron ers o leiaf yr oesoedd canol diweddar, gan gludo teithwyr i lan ddeheuol y foryd hyd y dydd heddiw.