Dyngarwch Oes Victoria

Yn Oes Victoria roedd sawl gwedd i ddyngarwch yn Lloegr, er enghraifft, gweini ar y ‘tlodion teilwng’ - a hynny mewn cyfnod pan fyddai pobl yn cael eu hanfon i wyrcws yn ogystal â’u hanfon at sefydliadau megis y Gymdeithas Gydweithredol (Co-op) a sefydlwyd yn wreiddiol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau am brisiau rhesymol. Mudiad arall sy’n deillio o’r cyfnod hwnnw ac sy’n dilyn yr un athroniaeth yw Byddin yr Iachawdwriaeth, ac wrth gwrs, yr oedd neges grefyddol yn bresennol yn aml. Yn gyffredinol, pobl gyfforddus eu byd oedd cefnogwyr y mudiadau hyn ac fe symudodd nifer ohonynt i Abermaw gan adeiladu tai mawr iddynt eu hunain. Roedd rhai yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r dydd hefyd. Mae Cyfrifiad 1851 yn dangos mai Cymry oedd y boblogaeth gyfan bron ond erbyn 1901 roedd nifer o deuluoedd Saesneg eu hiaith yn Abermaw a’r cyffiniau. Roedd Fanny Talbot yn wraig bwysig, yn byw uwchlaw’r dref ac yn rhestru aelodau blaenllaw o’r bonedd cyfoethog, deallus ymysg ei chyfeillion. Gŵr a elwodd yn gynnar iawn o natur hael, yn ogystal â phwrs hael Fanny Talbot, oedd yr hollddysgedig John Ruskin, y sylwebydd cymdeithasol a’r beirniad celf a fu mor allweddol yn natblygiad y meddwl dyngarol. Taniodd syniadau Ruskin ddiddordeb Talbot, yn enwedig y syniadau a oedd hefyd yn rhan o Gild San Siôr. Sefydlwyd y Gild i ddarparu tir ac addysg er mwyn cartrefu gweithwyr Cymru a Lloegr a’u hyfforddi megis crefftwyr yr oesoedd canol, gan hyrwyddo syniadau blaengar ar yr un pryd. Am £1,000 trosglwyddodd Mrs Talbot nifer o fythynnod yr Hen Bermo i’r Gild er mwyn iddynt fedru dechrau ar yr arbrawf cymdeithasol hwn – cymdeithas dai fyddai’r enw cyfoes ar hyn – er mwyn cynnig tenantiaeth sefydlog am bris gosodedig. Cynnig llety o’r fath oedd y syniad, ac fe fyddai darparu addysg yn tawelu’r syniadau radicalaidd a allai gael eu tanio ym meddyliau’r gweithwyr, tra ar yr un pryd byddent yn dysgu sgiliau a oedd yn cael eu colli o ganlyniad i effeithiau diwydiannol cyfalafiaeth. Fodd bynnag, fe ymddengys mai Fanny Talbot oedd yn gorfod gofalu am yr arbrawf gan mai anaml iawn yr ymwelai Ruskin ag Abermaw.

 

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, Mrs Talbot oedd y gyntaf i gyflwyno darn o dir yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a oedd ar fin cael ei sefydlu, sef Dinas Oleu, a byddai’n cyfarfod hynafgwyr y mudiad megis Octavia Hill a’r Canon Rawnsley yn rheolaidd.

Roedd sefydlu Sefydliad y Morwyr, ystafell ddarllen a hamddena ar gyfer morwyr ac eraill yn 1890 dan ofal y Canon Edward Hughes yn arwydd arall o’r asbri cyhoeddus.

Sefydlodd rhagor o wŷr mawr y diwydiant Fictoraidd ac Edwardaidd yn Abermaw. Daeth Mrs Sarah Perrins (gwraig y Perrins a greodd y Lea and Perrrins Worcester Sauce enwog) i Abermaw gan adeiladu tŷ helaeth o’r enw Plas Mynach. Yn ddiweddarach hi roddodd y rhan fwyaf o’r arian ar gyfer adeiladu Eglwys Sant Ioan ysblennydd ac yna Neuadd yr Eglwys. Ar draws y foryd, y teulu o gynhyrchwyr blawd McDougal a adeiladodd y rhan fwyaf o adeiladau cynnar y Friog, a elwid cyn hynny yn Dde Bermo, er i’r lle gael ei adeiladu’n bennaf ar gyfer dyfodiad diwydianwyr cefnog!