Be part of it

Amazing Barmouth Poems Kids Blog

Abermaw – Lle rhyfeddol

Eglwys Saws Caerwrangon!

 

Fry ar y bryn uwchben Abermaw fe welwch eglwys enfawr. Ond pam mae hi’n cael ei hadnabod fel ‘Eglwys Saws Caerwrangon’?

 

Ydych chi wedi blasu saws Caerwrangon neu ‘Lea and Perrins Worcester Sauce’ erioed? Mae ei flas yn debyg i saws brown neu saws HP ond mae ychydig yn fwy dyfrllyd na’r rheiny. Gallwch ei dywallt dros sglodion i’w troi’n sbeislyd neu ei ychwanegu at fwyd megis pastai’r bugail i newis ei flas. Ond oeddech chi’n gwybod mai dau ddyn o’r enw Mr Lea a Mr Perrins greodd y saws hwn dros gan mlynedd yn ôl a rhoi’r enw saws ‘Lea and Perrins’ arno? Roedd y saws mor boblogaidd nes i’r ddau ddod yn bur gyfoethog.

 

Ar ôl i Mr Perrins farw, ei weddw Mrs Sarah Perrins a etifeddodd ei gyfoeth cyn symud i fyw i Abermaw. Clywodd am y cynlluniau i adeiladu eglwys fwy ar ben y bryn gan fod yr un yn y dref yn rhy fach ar gyfer yr holl bobl oedd eisiau mynd i’r eglwys i addoli! Byddai codi eglwys newydd yn costio llawer felly cynigiodd Mrs Perrins dalu am adeiladu’r rhan fwyaf ohoni. Cyn gorffen y gwaith, syrthiodd y tŵr i mewn i ganol yr eglwys, gan ddinistrio llawer o’r gwaith oedd eisoes wedi ei orffen. Ond daeth Mrs Perrins i’r adwy drwy gynnig rhagor o arian er mwyn adeiladu tŵr newydd – a’i wneud yn iawn y tro hwn! Gorffennwyd yr eglwys yn 1895 a’i chysegru i Sant Ioan. Fodd bynnag, i drigolion Abermaw ‘Eglwys Saws Caerwrangon’ fydd ei henw am byth!

 

 

Bedd y Ffrancwr

 

Peth rhyfedd iawn yw gweld bedd Ffrancwr yn uchel ar ben y bryn - ond un rhyfedd oedd Auguste Guyard a dweud y gwir. Roedd Ffrainc yn wlad beryglus iawn yn ei gyfnod ef ac nid oedd yr awdurdodau’n cyd-fynd â’i syniadau. Wrth lwc, roedd ei ferched (y ddwy ohonyn nhw – y naill ar ôl y llall!) wedi priodi bechgyn o Abermaw ac felly fe ddihangodd Auguste i Gymru gan ymgartrefu yn Abermaw. Mae’n siŵr nad oedd hi’n hawdd cyfnewid Paris fawr, eang, am lethrau serth a llwybrau cul yr Hen Bermo ond nid oedd Auguste ar ei ben ei hun: roedd ganddo gwmni ci defaid o’r enw Cara. Byddai’n mynd am dro ar hyd y bryniau yng nghyffiniau Abermaw yn gwisgo côt lwyd laes a ffès goch ar ei ben – a chyda’i wallt gwyn llachar mae’n siŵr ei fod yn werth ei weld! Llwyddodd i ddofi jac-do a hebog yn ystod un haf. Bob nos byddai’r adar yn clwydo ar drawstiau’r atig. Tybed beth oedd Cara’r ci yn ei feddwl o hyn?

Dymuniad Auguste oedd cael ei gladdu ar y bryn a garai, uwchben y dref a roddodd loches iddo. Heddiw gellir gweld y bedd yn uchel ar ben y bryn (Rhif 3 ar y Daith Dreftadaeth).

 

 

Hobbits yn Abermaw?

 

Mae pawb bron wedi clywed am lyfrau JRR Tolkien, ‘The Hobbit’ a ‘The Lord of the Rings’. Ond oeddech chi’n gwybod bod Tolkien wedi ymweld ag Abermaw ac aros yn yr Hen Bermo, neu’r ‘Graig’ fel mae’r bobl leol yn galw’r lle? Wrth grwydro’r ardal hon efallai bydd y strydoedd troellog a’r lonydd cefn, y bythynnod bychain a’r hafnau yn y graig uwchben yn eich atgoffa o dref arbennig yn y Shire ..? Tybed a gafodd Tolkien ei ysbrydoli gan yr Hen Bermo wrth iddo greu Hobbiton? Efallai iddo gael ei ysbrydoli gan fwy na dim ond tref Abermaw. Mae sawl tebygrwydd rhwng map Tolkien o’r Shire a’r map o Abermaw a’r cyffiniau, gan gynnwys enwau lleoedd sy’n swnio’n debyg iawn i’w gilydd. Felly cofiwch droedio’n ofalus, ofalus yma – rhag ofn ichi ddod ar draws hobbit!

 

 

Peryglon y Môr

 

Mae peryglon o bob math wedi wynebu morwyr ar hyd y canrifoedd ac fe all arfordir Cymru fod yn dwyllodrus a pheryglus iawn. Mae creigiau cudd, cerrynt a llanw cryf y môr, a thraethellau sy’n disgwyl yn farus am longau yn ddiarwybod iddynt. Os edrychwch o dan bont y rheilffordd yng nghei Abermaw fe welwch gerflun rhyfedd. ‘Y Ddalfa Olaf’ yw ei enw ac fe welwch dri physgotwyr o dair cenhedlaeth yn ymlafnio i ddod â’u helfa o bysgod i’r lan. Os cyffyrddwch y cerflun efallai y gallwch ddyfalu o beth y cafodd ei greu: marmor arbennig iawn o’r enw Carrera o’r Eidal yw’r garreg. Codwyd y garreg benodol hon o longddrylliad rai milltiroedd i ffwrdd o Abermaw. Suddodd y llong dri chan mlynedd yn ôl ac mae hi (a’r rhan fwyaf o’i llwyth) yn dal ar wely’r môr.

 

Wrth gerdded ar hyd y cei i gyfeiriad yr harbwr fe welwch feinciau i ymwelwyr eistedd arnynt. Mae un o’r meinciau wedi cael ei gosod i gofio am griw bad achub a foddodd wrth geisio helpu llong a oedd mewn trybini ar y môr. Fedrwch chi ddod o hyd i’r fainc? Mae’r orsaf bad achub ar brif bromenâd Abermaw yn ein hatgoffa o beryglon y môr a’n dyled ni i’r rhai hynny sy’n mentro’u bywydau i helpu eraill.

 

Un o drychinebau enwocaf y môr yw hanes suddo llong y Titanic. Os cerddwch chi tuag at Adeilad yr Harbwrfeistr ym Mhen-y-cei fe welwch goflech a osodwyd er cof am Harold Lowe, 5ed Swyddog ar y Titanic. Bu’n byw yn Abermaw am nifer o flynyddoedd ac oherwydd ei ddewrder ef fe achubwyd llawer iawn o fywydau ar y noson dyngedfennol honno yn 1912.

 

 

Clowch y drws!

 

Tybed ydych chi wedi clywed y gân Saesneg sy’n dechrau gyda’r geiriau ‘What shall we do with a drunken sailor?’ erioed? A beth am yr ail bennill sy’n cynnig yr ateb ‘Put him in the brig until he’s sober’? Efallai nad dim ond morwyr oedd yn creu trafferth yn Abermaw ddau gan mlynedd yn ôl ond yn bendant, roedd gan y dref broblem – pobl wedi meddwi yn creu helynt. Penderfynodd pobl y dref geisio datrys y broblem drwy adeiladu ‘brig’ fel sydd yn y gân, sef math o garchar. Doedd y broblem ddim yn un fawr yn Abermaw mae’n siŵr, oherwydd carchar digon bach yw’r Tŷ Crwn. Mae’r adeilad yn grwn, wrth gwrs, ac wrth edrych yn fanwl fe welwch ei fod wedi cael ei rannu’n ddau hanner – er mwyn cloi’r merched a’r dynion ar wahân (doedd eu cadw gyda’i giydd ddim yn dderbyniol o gwbl). Gallwch edrych ar y ddwy gell a dychmygu pa mor erchyll fyddai cael eich cloi yno; dim toiled na lle ymolchi, dim gwres, dim golau. Hoffech chi dreulio noson yn y Tŷ Crwn tybed?

 

 

Dirgelwch y Pen a’r Ynys sydd ddim yn Ynys

 

Heb fod ymhell o’r prom, ar ben pellaf llwybr concrid, fe welwch dwyni tywod Ynys y Brawd. Wrth gerdded ar draws y rhain efallai y gwelwch rywbeth rhyfedd iawn. Ym mhen pella’r llwybr edrychwch i fyny i’r dde – a dacw fo! Mae’n dri metr o daldra ac yn debyg iawn i ddyn pren cerfiedig y Maoi o Ynys y Pasg. Ond o ble daeth o tybed?

 

Fe ddywed y bobl leol wrthych chi ei fod wedi ymddangos o nunlle un noson yn 2010. Does neb yn gwybod sut na pham y daeth yno, ond roedd sibrydion ei fod wedi dod yno ei hun er mwyn bod yng nghysgod y cawr sy’n cysgu – bryncyn islaw Cadair Idris sy’n debyg i ben cawr yw hwnnw. Efallai y medrwch ei weld wrth sefyll ar y traeth. Ai dyna’r gwir tybed? Beth ydych chi’n ei feddwl? Wnaeth y pen ymddangos ohono’i hun? Tybed beth sy’n mynd drwy ei feddwl wrth iddo syllu draw dros y môr?

 

Efallai ei fod yn meddwl am y bobl sydd wedi boddi yma. Arferai’r twyni tywod fod yn ynys (Ynys y Brawd). Mae’n anodd credu hyn heddiw wrth sefyll ar y twyni, ond môr peryglus gyda llanw grymus oedd i’w weld ers talwm lle mae’r llwybr concrid heddiw. Byddai’r cerrynt yn denu’r cychod at ddinistr ac fe gafodd tŵr golau a godwyd ar yr ynys er mwyn rhybuddio llongau ei falurio mewn storm. Pan adeiladwyd y llwybr concrid fe drodd lif y môr a’r afon i gyfeiriad arall er mwyn creu Harbwr Abermaw - ond dyna ddiwedd Ynys y Brawd.

 

Ynys sydd ddim yn ynys, a phen sydd wedi ymddangos o nunlle. Dyna ryfedd!

 

 

Y Mynydd Hudol

 

Wrth sefyll ar y cei ger yr harbwr, fe welwch y tu draw i bont y rheilffordd ac ymhell y tu hwnt i’r foryd fynydd mawr - dyma Gadair Idris. Mae’n fynydd hudol ac yn ôl y chwedl, cawr doeth oedd Idris a arferai eistedd yn ei gadair i syllu ar y sêr. Mae tair carreg enfawr ar droed y mynydd – Idris giciodd y rheiny pan oedd yn wyllt ulw gandryll rhyw ddiwrnod.

Mae chwedl arall yn honni mai Cadair Idris oedd tir hela Gwyn ap Nudd, brenin yr isfyd. Dywedir ei fod wedi hela ar y llethrau gyda haid o gŵn hela rhithiol o’r enw Cŵn Annwn mewn helfa wyllt. Roedd udo’r cŵn yn rhagfynegi marwolaeth pwy bynnag oedd yn eu clywed, er bod llên gwerin Cymru yn honni fod yr udo i’w glywed gryfaf pan fyddant yn bell i ffwrdd ac wrth iddynt nesáu bydd yr udo’n mynd yn dawelach ac yn dawelach! Ond arwydd o farwolaeth oedd y cŵn hyn, gyda’r cnud yn cipio enaid rhywun a’i gludo i’r isfyd.

Mae sôn hefyd fod ysbrydion ar y mynydd. Yn ôl rhai gwelir goleuadau rhyfedd yn ystod dyddiau cyntaf y flwyddyn ac mae llawer yn credu y bydd unrhyw un sy’n treulio noson ar y mynydd ar ei ben ei hun yn deffro un ai’n wallgof neu’n fardd!

Efallai ei bod hi’n well i chi sefyll yn ddiogel ar y cei a syllu draw ar y mynydd o’r fan honno!

 

 

Tafarn yng Ngweithdy’r Crydd?

 

Codwyd y rhan fwyaf o hen adeiladau Abermaw yn Oes Victoria ond mae ambell un yn hŷn na hynny hyd yn oed – a rhai dros 500 mlwydd oed. Mae llawer o’r tai hyn i’w gweld o gwmpas tafarn y Last Inn ac mae’n ddigon hawdd sylwi arnynt gan eu bod yn fychan iawn.

 

Ond pam rhoi’r enw The Last Inn ar y dafarn tybed? Mae llawer o ymwelwyr yn credu mai’r rheswm am hyn yw’r ffaith mai dyma’r dafarn olaf wrth i chi adael y dref. Ond wrth ddod i mewn i’r dref o’r cyfeiriad hwnnw, dyma’r dafarn gyntaf!

 

Roedd y Last Inn yn gartref i grydd ar un adeg. Mae pob crydd angen offer i wneud esgidiau – ac un o’r rhain yw’r ‘mul’ neu ‘lest’ - ‘last’ yn Saesneg. Siâp tebyg i droed wedi ei wneud o bren neu fetel yw hwn ac fe fyddai’r crydd yn rhoi lledr drosto er mwyn gwneud esgid neu fotasen o’r maint cywir, neu roi esgid arno i’w thrwsio. Felly nawr rydych yn gwybod o ble mae’r enw The Last Inn yn dod!

 

 

Adeiladwyd Abermaw ar ddarn cul iawn o dir rhwng y môr a’r clogwyni ac fe godwyd llawer o dai ar lethrau’r graig. Gofynnwch i rywun fynd â chi i mewn i’r Last Inn. Yno fe gewch syniad pa fath o dai oedd y bythynnod hyn, gyda nenfydau isel, isel ac ystafelloedd tywyll. Craig y mynydd ydi wal gefn y dafarn ac mae ffynnon o ddŵr croyw yn tarddu o’r graig hyd yn oed, gan ffurfio pwll bychan - i mewn yn y dafarn!